Nodweddion

Cynllun Personol:
Mae’r Asthmahub yn ddull cludadwy i chi storio Cynllun Gweithredu Asthma Personol eich plentyn, gan eich galluogi i chi ei gyrchu pryd bynnag a ble bynnag y gallai fod ei angen arnoch.

Monitro a chofnodi:
Defnyddiwch yr Asthmahub i gofnodi manylion gofal iechyd eich plentyn, o ddyddiaduron brigif uchaf i apwyntiadau gyda’r meddyg teulu. Mae’r Asthmahub yn cynnig platfform i chi storio’r holl wybodaeth hon mewn un lle hygyrch a hwylus i’w ddefnyddio.

Cyngor a chymorth:
Gwybodaeth wedi’i chyflwyno mewn fformat hawdd ei ddarllen, sy’n eich galluogi chi a’ch clinigwr i fonitro’ch cyflwr a chynnig cyngor a chefnogaeth wedi’i theilwra’n gyfredol.

Fideos Addysgol:
Dysgwch ragor am asthma eich plentyn yn rhan addysgol yr Asthmahub. Mae’n cynnwys nifer o fideos llawn gwybodaeth ar dechnegau ymanadlwr, rheoli asthma yn yr ysgol a llawer mwy, i gyd ar gael i’ch cefnogi chi.
Cynllun Personol
- Offeryn asthma rhyngweithiol sy’n eich galluogi i gadw llygad ar eich symptomau dros amser
- Wedi’i ddatblygu gan glinigwyr ledled Cymru i gynnig y cyngor diweddaraf a mwyaf cywir
- Gallwch reoli asthma eich plentyn hwnt ac yma, ble bynnag y byddwch chi
- Yn glir ac yn hawdd i’w ddefnyddio, hyd yn oed mewn argyfwng

Monitro a chofnodi
Defnyddiwch yr ap Asthmahub i gadw holl fesuriadau eich plentyn, ei sbardunau a’i ddarlleniadau ffisiolegol yn gyfredol a monitro unrhyw newidiadau dros amser.
- Cofnodi darlleniadau gartref ac yn yr ysbyty, a’u storio yn yr unfan i gael mynediad cyflym atynt
- Gallwch weld tueddiadau yn eich canlyniadau, wedi’u cyflwyno mewn fformat syml sy’n hawdd i’w ddarllen
- Gallwch weld tueddiadau yn eich canlyniadau, wedi’u cyflwyno mewn fformat syml sy’n hawdd i’w ddarllen
- Cofnodi darlleniadau gartref ac yn yr ysbyty, a’u storio yn yr unfan i gael mynediad cyflym atynt
Fideos Addysgol
- Maent i gyd ar gael ar flaenau’ch bysedd i’w gwylio ble bynnag y byddwch chi
- Gallwch gyrchu fideos addysgol sy’n cynnwys clingwyr o ledled Cymru
Cyngor a chanllawiau cyfoes, wedi’u halinio â chanllawiau cenedlaethol i’ch helpu i ddeall asthma eich plentyn yn well. Dysgwch am eich meddyginiaeth, rheoli sbardunau a llawer mwy. Popeth yn yr unfan – yr Asthmahub i Rieni.
