Nodweddion

Cynllun Personol:
Mae’r Asthmahub yn ddull cludadwy i chi storio eich Cynllun Gweithredu Asthma Personol, gan eich galluogi i’w gyrchu pryd bynnag a ble bynnag y gallai fod ei angen arnoch.

Monitro a chofnodi:
Defnyddiwch yr Asthmahub i gofnodi manylion eich gofal iechyd, o ddyddiaduron briglif uchaf i apwyntiadau gyda’r meddyg teulu. Mae’r Asthmahub yn cynnig platfform i chi storio’r holl wybodaeth hon mewn un lle hygyrch a hwylus i’w ddefnyddio.

Cyngor a Chymorth:
Gwybodaeth wedi’i chyflwyno mewn fformat hawdd ei ddarllen, sy’n eich galluogi chi a’ch clinigwr i fonitro’ch cyflwr a chynnig cyngor a chefnogaeth wedi’i theilwra’n gyfredol.

Fideos Addysgol:
Dysgwch ragor am eich asthma yn rhan addysgol yr Asthmahub. Mae’n cynnwys nifer o fideos llawn gwybodaeth ar dechnegau ymanadlwr, ymarferion anadlu a llawer mwy, i gyd ar gael i’ch cefnogi chi.
Cynllun Personol
- Offeryn asthma rhyngweithiol sy’n eich galluogi i gadw llygad ar eich symptomau dros amser
- Wedi’i ddatblygu gan glinigwyr ledled Cymru i gynnig y cyngor diweddaraf a mwyaf cywir
- Gallwch reoli eich asthma hwnt ac yma, ble bynnag y byddwch chi
- Yn glir ac yn hawdd i’w ddefnyddio, hyd yn oed mewn argyfwng

Monitro a chofnodi
Defnyddiwch yr ap Asthmahub i gadw’ch holl fesuriadau, eich sbardunau a’ch darlleniadau ffisiolegol yn gyfredol a monitro unrhyw newidiadau dros amser.
- Cofnodi darlleniadau gartref ac yn yr ysbyty, a’u storio yn yr unfan i gael mynediad cyflym atynt
- Gallwch weld tueddiadau yn eich canlyniadau, wedi’u cyflwyno mewn fformat syml sy’n hawdd i’w ddarllen
- Gallwch weld tueddiadau yn eich canlyniadau, wedi’u cyflwyno mewn fformat syml sy’n hawdd i’w ddarllen
- Cofnodi darlleniadau gartref ac yn yr ysbyty, a’u storio yn yr unfan i gael mynediad cyflym atynt
Fideos Addysgol
- Maent i gyd ar gael ar flaenau’ch bysedd i’w gwylio ble bynnag y byddwch chi
- Gallwch gyrchu fideos addysgol sy’n cynnwys clingwyr o ledled Cymru
Cyngor a chanllawiau cyfoes, wedi’u halinio â chanllawiau cenedlaethol i’ch helpu i ddeall eich asthma yn well. Dysgwch am eich meddyginiaeth, rheoli sbardunau a llawer mwy. Popeth yn yr unfan – yr Asthmahub.
