COPD

Gallwch reoli, monitro a dysgu am eich COPD, ble bynnag y byddwch.

Mae’r apiau hunanreoli yma i’ch cefnogi a’ch helpu i ddeall a rheoli eich symptomau o ddydd i ddydd.

top-image-_0000_copd-welsh-top

Nodweddion

info icon

Cynllun Personol: 

Mae’r COPDhub yn ddull cludadwy i chi reoli eich gwaethygiadau, gan gynnig offeryn y gallwch ei gyrchu pryd bynnag a ble bynnag y gallai fod ei angen arnoch.

info icon

Monitro a chofnodi: 

Defnyddiwch COPDhub i gofnodi manylion eich gofal iechyd, o ganlyniadau sbirometreg i apwyntiadau gyda’r meddyg teulu. Mae COPDhub yn cynnig platfform i chi storio’r holl wybodaeth hon mewn un lle hygyrch a hwylus i’w ddefnyddio.

info icon

Cyngor a chymorth: 

Gwybodaeth wedi’i chyflwyno mewn fformat hawdd ei ddarllen, sy’n eich galluogi chi a’ch clinigwr i fonitro’ch cyflwr a chynnig cyngor a chefnogaeth wedi’i theilwra’n gyfredol.

info icon

Fideos Addysgol: 

Dysgu rhagor am eich COPD gydag adran addysg y COPDhub. Mae’n cynnwys nifer o fideos llawn gwybodaeth ar dechnegau ymanadlwr, ymarferion anadlu a llawer mwy, i gyd ar gael i’ch cefnogi chi.

Cynllun Personol

Personalised-Plan-_0000_copd-welsh-pp

Monitro a chofnodi

Defnyddiwch yr ap COPDhub i gadw’ch holl fesuriadau, eich sbardunau a’ch darlleniadau ffisiolegol yn gyfredol a monitro unrhyw newidiadau dros amser.

Fideos Addysgol

Cyngor a chanllawiau cyfoes, wedi’u halinio â chanllawiau cenedlaethol i’ch helpu i ddeall eich COPD yn well. Dysgwch am eich meddyginiaeth, rheoli sbardunau a llawer mwy. Popeth yn yr unfan – COPDhub.

Healthhub logo - white.

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau. Am fwy o fanylion ewch i'n Polisi Preifatrwydd